10/03/2007

Cyflwyniad

Dwi am dechrau blog. Dwn i'm pam. Y rheswm mae'n siwr yw bod pawb arall yn gwneud hyn. Newydd sylweddoli ddoe bod Ask yn gwneud blog Awards. Hmm.... Felly, dwi'n dilyn y chwyldro. Hwn fydd y ffordd newydd i bobl dweud ei dweud i pawb arall. Hwn fydd y ffordd newydd i bobl dweud be wnaeth nhw yng nghanol yr wythnos. Os ydi gwleidyddon yn gwneu blogs rwan ... dylwn i gwneud blog!!!!!

Pwynt y blog hwn yw siarad am y pethau di-bwynt mewn bywyd. Pethau cyffredin di-bwynt mewn bywyd. Os oes gennych rhywbeth di-bwynt i dangos i mi, e-bostiwch at di_bwynt@yahoo.co.uk.

Henffych,
*di-bwynt*

3 comments:

Aled Wyn said...

Edrych ymlaen i clywed mwy

Llefenni said...

Sna'm byd yn hollol di-bwynt!
Pob hwyl efo'r blog Di*bwynt - mi ffendia'i rywbeth bron a bod yn ddibwynt i ti rhwbryd ;-)

*di-bwynt* said...

Diolch am croeso croesawus gan bawb.