20/04/2007

Wedi cael fy wahardd gan Maes-E

Am hysbysebu y blog yma....


Hmmm, dim ond hysbysebu, buasai ddim yn galw fo'n sbamio!

Hwyl am y tro.

19/04/2007

Gwglwhacks, Maes-E, Lwcaleics yr S.R.G a.y.y.b

Sori am fod mor hir yn gyrru fy mlog gyntaf ( heb cyfri'r Cyflwyniad), doeddwn i ddim yn gallu meddwl am beth i ysgrifennu. Roeddwn yn meddwl buasai hi'n hawdd i ysgrifennu, ond, fel dwi wedi deall rwan does yna ddim llawer o bethau di-bwynt.

Felly....

Nes i trio feddwl be di'r peth mwyaf di-bwynt dwi di gwneud yn fy mywyd. Ac ar ol pendroni, ges i o.

Trio Chwilio am Gwglwhack!!!



[Rwan, dwi'n gwbod mae llawer ohonach chi ddim yn gwbod beth yw gwglwhack (neu 'googlewhack' yn Saesneg), ond, os ydych chi yn mynd ar Wikipedia neu ar gwefan Dave Gorman (y boi yn y llun uchod) cewch mwy o gwybodaeth am hyn (Sori, ond dwi'm yn gallu fod yn 'bothered' i ysgrifennu'r am gwglwhacks)]

[Ond, meddwl am hynna. Peidiwch mynd a'r Wikipedia! Yn ol Times Online, (sori, gormod o lincs), dywedodd oedd erthygl Tony Blair yn cael ei newid 25 o waith y dydd a roedd o'n cael ei gyhuddo o gael posteri Hitler yn ei ystafell wely ac am ddechrau rhyfel ffug yn erbyn Saddham Hussein yn Irac. Hmm.... dydi hynna i'm yn edrych yn dda ar gyfer yr etholiadau sy'n dod (ond, o leiaf fydd o'n mynd oddi yno rhywbryd)!]

Felly, es i trio chwilio am gwglwhack Cymraeg. Felly, teipiais 'Smwddis Radioactif' a gefais y canlyniad yma i fyny. (Sori, ond, ni allaf dangos unrhyw tystiolaeth o gwbl bod o'n gwglwhack - Sori arall! Plis ymddiheurwch am hyn). Roeddwn i wedi rhyfeddu ar pam mor 'random' oedd y trafodateth yn mynd nes i gyrru y neges hon ar y seiat: -













... ond, mi roeddwn wedi rhyfeddu ar y trafodaeth am wneud 'Smwddis' a meddwl bod o'n trafodaeth reit 'random'. Felly, be dwi'n ei ofyn i chi Maeswyr yw a oes yna mwy o bethau random fel hyn. Rhywbeth? Bryn Fon Bashings... you name it!!!! Diolch yn fawr iawn am ddarllen hwn, Gwglwaciwr













[Gwglwaciwr oedd fy enw defnyddiwr ar y seiat]













A dyma'r ymateb ges i ...













Felly, os doedd y Maeswyr ddim am helpu fi i ffeindio y trafodaethau random yma ar ei gwefan nhw, roeddwn i yn mynd i a dyma be wnes i ffeindio....



















































































Daliwch i sgrolio lawr


















































































































































Mae'n sypreis!!!!!


































































































Ar ol 3















































































































1












































































2


























































































3!!!!
































































































Fonze a Bryn Fon!!!!!


Roeddwn i wedi syfrdanu ar ol y gymhariaeth yna. Sut fedar rhywun cymharu y Fonze a Bryn Fon (Urrrrggghhhh!!! Dwi'n dechrau cael meddyliau drwg o Bryn Fon - sori, ond os wnaethoch chi weld Tipyn o Stad Nos Sul diwethaf (15/04/07) dach chi'n gwybod am be dwi'n son).


Felly, tan tro nesa gyrrwch neges a dyfalwch pwy mae hein yn lwcaleics i.









[A.N - Mi wnaeth Mari Elin gyrru llun o lwcaleic i Dyl Mei! Oedd o'n reit doniol i dweud y gwir, Mari - os ti'n darllen hwn]

[Mae Di-Bwynt yn ymddiheuro am unrhyw gwallau iaith mae wedi achosi yn y blog hwn]


10/03/2007

Cyflwyniad

Dwi am dechrau blog. Dwn i'm pam. Y rheswm mae'n siwr yw bod pawb arall yn gwneud hyn. Newydd sylweddoli ddoe bod Ask yn gwneud blog Awards. Hmm.... Felly, dwi'n dilyn y chwyldro. Hwn fydd y ffordd newydd i bobl dweud ei dweud i pawb arall. Hwn fydd y ffordd newydd i bobl dweud be wnaeth nhw yng nghanol yr wythnos. Os ydi gwleidyddon yn gwneu blogs rwan ... dylwn i gwneud blog!!!!!

Pwynt y blog hwn yw siarad am y pethau di-bwynt mewn bywyd. Pethau cyffredin di-bwynt mewn bywyd. Os oes gennych rhywbeth di-bwynt i dangos i mi, e-bostiwch at di_bwynt@yahoo.co.uk.

Henffych,
*di-bwynt*